Mae ymchwiliadau ar y gweill wedi i tua 30 o bobol gael eu taro’n sâl gan haint cryptosporidium, wedi parti mewn pwll nofio yn Merthyr.
Yn ôl adroddiadau, roedd y rheiny sydd wedi eu taro’n sâl ymhlith 46 o bobol wnaeth fynychu parti yn un o dri phwll yng Nghanolfan Hamdden Merthyr Tudful bythefnos nôl.
Mae cryptosporidium yn barasit sy’n cael ei ganfod mewn pobol ac anifeiliaid, ac yn cael ei drosgwlyddo mewn dŵr.
Mae’n creu salwch sy’n gallu para am sawl wythnos, ac mae’n gallu bod yn farwol i’r henoed a phlant ifanc iawn.
Mae cynghorau Merthyr a Rhondda Cynon Tâf yn ymchwilio, ynghyd â Gwasanaeth Iechyd y Cyhoedd Cymru.
Eisoes mae cadarnhad wedi dod bod wyth o’r rhai aeth yn sâl wedi eu effeithio gan cryptosporidium.
Yn dilyn asesiad risg, mae’r pwll yn parhau ar agor, ac mae’r awdurdodau’n fodlon bod ‘na ddim peryg pellach i’r cyhoedd.
Mae symptomau cryptosporidium yn cynnwys dolur rhydd a phoenau stumog. Mae rhai hefyd yn chwydu ac yn colli pwysau.
Mae’n bwysig golchi dwylo yn drylwyr er mwyn atal y salwch rhag lledu.
(Llun: Merthyr Tudful)