Mae Jack Tweed, gŵr gweddw’r seren deledu realiti Jade Goody, wedi cael ei gyhuddo o dreisio, meddai Heddlu Scotland Yard.

Bydd yn ymddangos yn Llys Ynadon Redbridge yn Ilford, Essex i wynebu’r cyhuddiad.

Yn dilyn cwyn gan ferch ifanc, cafodd Jack Tweed, 22 oed o Chigwell, Essex, ei arestio ddydd Gwener.

Mae dyn arall yn ei ugeiniau wedi’i ryddhau ar fechnïaeth tra mae’r ymchwiliad yn parhau.

Yn ogystal, fe arestiwyd trydydd dyn, 25 oed, mewn cysylltiad â’r achos yn hwyr neithiwr.

Fe wnaeth y ferch y cyhuddiad ar ôl honni cyfarfod y dynion mewn clwb nos yng nghanol Llundain nos Iau.

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad rhywiol honedig mewn tŷ yn Redbridge.

Mae Mark Thomas, llefarydd ar ran Jack Tweed, wedi gwrthod rhyddhau unrhyw ddatganiad ynghylch yr arestio ond wedi cadarnhau fod cyfreithiwr wedi’i logi i’w gynrychioli.