Dechrau cymysg gafodd rhanbarthau Cymru yng ngemau agoriadol Cynghrair Magners.
Colli fu hanes y Gleision yn eu gêm gystadleuol gyntaf yn eu cartref newydd yn Stadiwm Dinas Caerdydd.
Enillodd y Gweilch yn Connacht, mewn gêm ddi-fflach.
Er i dîm David Young orffen y gêm yn gryf yng Nghaerdydd, gyda chais hwyr gan Gareth Thomas, methodd Ben Blair gyda’r trosiad, ac fe enillodd Caeredin 22-21.
Caeredin yn haeddu ennill
Roedd y fuddugoliaeth yn un haeddiannol i’r Albanwyr. Fe wnaethon nhw ddechrau’n dda gan sgorio dau gais yn y chwarter awr agoriadol, i fynd ar y blaen o 14-3.
Ond daeth y Gleision yn ôl wrth i’r asgellwr, Chris Czekaj, sgorio cais dadleuol. Ar yr egwyl felly, pedwar pwynt oedd y fantais i’r Albanwyr, gyda’r sgôr yn 14-10.
Yn gynnar yn yr ail hanner croesodd cefnwr profiadol yr Alban, Chris Patterson, am gais i ymestyn mantais yr Albanwyr, ac er iddo fethu’r trosiad, ychwanegodd gic gosb.
Fe wnaeth cais Thomas roi hwb i’r Gleision yn hwyr, ond llwyddodd Caeredin i sicrhau’r fuddugoliaeth.
Perfformiad gwan
Cafodd y Gweilch ddechreuad ychydig gwell yn Iwerddon, gan guro Connacht o 19 -12.
Y bachwr rhyngwladol, Huw Bennett, gafodd unig gais y gêm, ac fe ddaeth 11 pwynt o droed y maswr ifanc, Dan Biggar.
Ond perfformiad digon gwan gafwyd gan y Gweilch yn gyffredinol, ac yn erbyn timau cryfach, mae’n debyg y bydden nhw wedi colli wrth iddyn nhw adael i’r gwrthwynebwyr gael gormod o gyfleoedd i ymosod.
Wedi dweud hynny, ennill oedd y nod yn y gêm agoriadol ac fe fydd tim y Liberty yn falch i ddechrau’r tymor gyda buddugoliaeth oddi cartref.
(Llun: Stadiwm Dinas Caerdydd)