Mae perchennog y siop sglodion orfodwyd i gau o ganlyniad i’r ymchwiliad i achosion o haint e-coli yn ardal Wrecsam wedi cael yr hawl i ail-agor.
Bum wythnos nôl bu’n rhaid cau’r Llay Fish Bar wedi i Wasanaeth Iechyd y Cyhoedd yng Nghymru gadarnhau mai’r siop oedd tarddiad tebygol yr haint.
Fe aeth pedwar o bobol yn sâl ar ôl cael bwyd o’r siop – gyda phob un yn dioddef o’r un straen o e-coli.
Mae Karen Morrisroe-Clutton, 32 oed, sy’n fam i fabi pedwar mis oed, yn dal yn uned gofal dwys Ysbyty Maelor Wrecsam.
Dywedodd ei gŵr, Paul, ei fod wedi ei siomi fod Ramazan Aslan, perchennog y Llay Fish Bar, wedi cael yr hawl i ail-agor y siop tra fod ei wraig yn dal heb wella.
Ond mynnodd cyfreithiwr Mr Aslan nad oedd tystiolaeth wyddonol i ddangos mai siop ei gleient oedd yn gyfrifol am yr e-coli.
“Yr unig ffactor sy’n gyffredin fan hyn yw fod y bobol effeithiwyd i gyd wedi prynu bwyd yn y siop. Does dim tystiolaeth i ddangos fod yr e-coli wedi dod o’r fan honno,” meddai.
Mae swyddogion Cyngor Sir Wrecsam yn dweud y byddan nhw’n parhau i gadw golwg glos ar y Llay Fish Bar wedi i’r lle ail-agor.