Yn Llys y Goron Abertawe heddiw fe wnaeth dyn lleol wadu ei fod wedi lladd ei wraig.

Mae Paul Grabham, 25, o Rosehill Terrace, Abertawe, yn cael ei gyhuddo o lofruddio Kirsty Grabham, 24, yn gynnar ym mis Ebrill eleni.


Diflannu ar ôl noson allan

Fe wnaeth Kirsty Grabham, oedd a’i bryd ar fod yn fodel, ddiflannu yn dilyn noson allan efo cyfeillion ddiwedd mis Mawrth.

Cafodd ei chorff ei darganfod mewn coedlan yn ymyl traffordd yr M4, ger Laleston, yn agos i Ben-y-bont ar Ogwr, ar 7 Ebrill. Cafodd ei gŵr ei gyhuddo o’i llofruddio’r diwrnod wedyn.

Gohirio’r gwrandawiad

Fe wnaeth y Barnwr, John Diehl QC, ddweud wrth Paul Grabham y byddai yn debygol o wynebu achos llawn yn gynnar yn y flwyddyn newydd, ac y byddai’n para am tua pedair wythnos.

Llun: Kirsty Grabham