Mae’r gwleidydd wnaeth wrthod cefnogi’r cais cyllido ar gyfer papur dyddiol Cymraeg yn dweud bod y cwymp yng ngwerthiant prif bapurau dyddiol Cymru yn profi ei fod e’ wedi gwneud y penderfyniad iawn.

Dywedodd Rhodri Glyn Thomas, y cyn-Weinidog Treftadaeth, wrth Golwg 360 fod y cynllun i greu papur newydd dyddiol Cymraeg ‘Y Byd’ wedi bod yn “gwbl anymarferol o’r cychwyn cyntaf” – yn enwedig o ystyried y “problemau enbyd” sy’n wynebu prif bapurau’r wlad yn yr hinsawdd gyfredol.

Honnodd fod ffigurau diweddar a gafodd eu cyhoeddi gan y diwydiant papurau newydd yn atgyfnerthu ei farn.

Mae’r ffigurau yn dangos gostyngiad arwyddocaol yng nghylchrediad chwech o brif bapurau Cymru yn ystod chwe mis cyntaf 2008.

“Byddai wedi bod yn drychineb llwyr pe bai Llywodraeth Genedlaethol Cymru wedi rhoi arian i bapur newydd fyddai wedi gorfod cau o fewn blwyddyn,” dywedodd.

Mae’r cyn-Weinidog yn glynu wrth ei benderfyniad, er gwaetha’ beirniadaeth gan rai bod cyfle mawr wedi ei golli.

“Mae lleiafrif cyfyngedig y dosbarth canol sy’n gweithio yn y cyfryngau yn rhoi barn ac yn credu bod y farn honno’n cynrychioli’r mwyafrif. Does neb yn barod i leisio barn i’r gwrthwyneb,” meddai.

Newyddiaduraeth safonol

Ond, yn ôl Elin Haf Gruffydd Jones, un o Gyfarwyddwyr ‘Y Byd’, byddai llwyddiant gwasanaeth newyddion dyddiol y papur wedi dibynnu ar faint o arian cyhoeddus fyddai wedi ei roi i gefnogi’r newyddiaduraeth.

“Mae gwledydd eraill yn rhoi cyllid sylweddol i hybu newyddiaduraeth safonol. Mae hyn yn gyfraniad pwysig i ddemocratiaeth yn y pen draw,” dywedodd.

Wrth ymateb i’r ffigurau diweddaraf, pwysleisiodd y gyfarwyddwraig nad cynllun cyfrwng print yn unig oedd un ‘Y Byd’ ond yn hytrach roedd yn fodel busnes print a gwe.

“Dim ond model cymysg fel yma fyddai wedi gweithio,” ychwanegodd.

Y Ffigurau

• Daily Post (Gogledd Cymru) 33,938, -5.3%
• South Wales Argus (Casnewydd) 26,667, -5.6%
• Evening Leader (Wrecsam) 19,437, -8.1%
• South Wales Evening Post (Abertawe) 46,069, -10.1%
• Western Mail (Caerdydd) 32, 926, -11.4%
• South Wales Echo (Caerdydd) 39,361, -11.8%