Mae’r criw sy’n cynhyrchu ffilm ‘Robin Hood’ wedi dychwelyd i draeth Freshwater West yn Sir Benfro i saethu chwech eiliad ar gyfer y cynhyrchiad.

Y nod oedd ffilmio taith saeth drwy’r awyr.

Fe lwyddodd y criw i wneud hyn drwy ddefnyddio model o hofrennydd wedi ei reoli o bell gyda chamera bychan ynddo.

Dywedodd Steve Hart, y rheolwr lleoliad, wrth y Western Mail mai dyma’r unig beth nad oedden nhw wedi llwyddo ei gyflawni wrth iddyn nhw ffilmio yn sir Benfro yn ystod yr haf.

Mae’r ffilm yn costio $175m ac yn cynnwys yr actorion, Russell Crowe a Cate Blanchett. Mae’n cael ei chyfarwyddo gan Ridley Scott.

Llun: Russell Crowe (PA)