Fe wnaeth Gordon Brown amddiffyn yr ymgrych filwrol yn Afghanistan yn gryf heddiw prin ddiwrnod wedi i ysgrifennydd preifat yn y Swyddfa Dramor ymddiswyddo oherwydd ei fod e’n anghytuno gyda strategaeth Llywodraeth Prydain.
Mynnodd y Prif Weinidog fod yr ymgyrch yn hollbwysig i warchod y cyhoedd ym Mhrydain.
Does dim modd “cerdded i ffwrdd”, meddai.
Ychwanegodd ei fod wedi ystyried yn ddwys ynglŷn â pharhau gyda’r ymgyrch filwrol.
“Bob tro rwy’n gorfod gofyn i fy hunan os ydyn ni’n gwneud y peth iawn trwy fod yn Afghanistan,” meddai.
“Rwy’n gorfod gofyn i fy hun os ydyn ni’n gallu cyfiawnhau anfon ein bechgyn a’n merched ifanc allan yno i ymladd. A’r ateb wastad yw ‘ydyn’.”
“Er mwyn diogewlch ein gwlad allwn ni ddim cerdded i ffwrdd.”
Daeth araith y Prif Weinidog oriau’ unig wedi i Eric Joyce, ysgrifennydd preifat i’r Ysgrifennydd Amddiffyn, Bob Ainsworth, ymddiswyddo.
Roedd y cyn Uwch-Gapten yn y fyddin wedi dweud na allai’r Llywodraeth honni bellach mai brwydr yn erbyn terfysgaeth yw’r ymgyrch yn Afghanistan.
Fe wnaeth yr Aelod Seneddol dros Falkirk ddweud ei fod e’n teimlo ei bod hi’n amhosib parhau i gyfiawnhau’r colledion milwrol bellach.
“Dw i ddim yn credu y bydd y cyhoedd yn gallu derbyn y gall y colledion gael eu cyfiawnhau trwy gyfeirio at risg terfysgaeth ar y strydoedd. Dw i ddim yn meddwl chwaith y gallwn ni barhau hefyd gyda’r lefel o ansicrwydd am yr hyn ry’n bwriadu gwneud yn y dyfodol yn Afghanistan.”
Ond yn ei araith, mynnodd Gordon Brown bod strategaeth Prydain yn glir ac yn gyfiawn.
“Mae’r pwysau ar Al Qaida yn Pakistan a’r ymgyrch filwrol yn Afghanistan yn cael effaith ar allu Al Qaida i weithredu.”