Mae hunan-fomiwr wedi lladd o leiaf 18 o bobl ac wedi anafu 60 yn ne Rwsia heddiw.

Digwyddodd y bomio mewn ardal sydd wedi profi ymladd ers 15 mlynedd rhwng gwrthryfelwyr yn Chechnya ac ardaloedd cyfagos.

Fe wnaeth yr ymosodwr yrru tryc i mewn i giatiau Pencadlys yr Heddlu yn ninas Nazran yn nhalaith Ingushetia.

Ffrwydrodd y bom wrth i heddweision baratoi i fynd i’w gwaith.

Er i’r heddlu geisio stopio’r tryc, bu eu hymdrechion yn aflwyddianus.

O ganlyniad, fe wnaeth y ffrwydrad ddinistrio ystafell arfau yn ogystal â thanio ffrwydron a oedd eisoes yn yr ystafell hono.

Hefyd, cafodd adeilad fflatiau cyfagos, sawl car a blociau swyddfeydd eu llosgi yn y ffrwydrad.
“Ymgais i ansefydlogi’r drefn a chreu panic ar hyd y ffin yn Chechnya yw’r digwyddiad yma,” meddai Yunus-Bek Yevkurov, Arlywydd Kremlin Ingushetia.

Llun: Gweithwyr y gwasanaethau argyfwng yn edrych trwy weddillion gorsaf heddlu yn Nazran, Ingushetia, Rwsia heddiw. (AP Photo/Musa Sadulayev)