Mae meddyg llygaid o dras Cymreig wedi datblygu dyfais syml a allai arbed miliynau o bunnau i’r Gwasanaeth Iechyd.

Datblygodd yr ymgynghorydd offthalmolegol Teifi James y ddyfais tua thair blynedd yn ôl, ac mae’n ffrwyth llafur 20 mlynedd o brofiad o weithio mewn clinigau llygaid.

Diben y ddyfais yw cynorthwyo cleifion sy’n dioddef o anhwylderau ‘meibomian gland’ sy’n achosi llygaid sych, cyflwr a all fod yn boenus.

Mae’r ddyfais yn cael ei marchnata fel ‘bag llygaid’ – EyeBag – ac mae modd ei ddefnyddio trwy ei gynhesu yn y microdon am tua 40 eiliad ac yna ei osod ar y llygaid i leddfu llid.

Mae tua 30% o gleifion â phroblemau iechyd llygaid mewn clinigau ym Mhrydain yn dioddef rhyw ffurf o’r anhwylder.

Mae dros 30,000 o’r Bagiau Llygaid wedi cael eu gwerthu hyd yn hyn.

Mae Teifi James yn credu y gallai gwerthu’r bag llygaid arbed miloedd i’r gwasanaeth iechyd gan nad oes angen presgripsiwn amdano a’i fod drwy hynny’n rhyddhau amser meddygon teulu ledled Prydain.

Mae’n honni fod y ddyfais yn lleddfu symptomau oddeutu 90% o gleifion, ac yn gwella rhai ohonynt yn llwyr.

Er mai yn Llundain y ganed Teifi James, mae ganddo gysylltiadau amlwg â Chymru gan fod ei rieni’n dod o Bontypridd.

Bellach, mae Teifi James gweithio yng ngorllewin Efrog, lle mae’n arbenigo mewn llido ocwlar (ocular inflammation). Mae’n gymrawd yng Ngholeg Brenhinol Offthalmolegwyr, Coleg Brenhinol llawfeddygon Caeredin, a Choleg Brenhinol Ffisigwyr Llundain.

Llun: Yr EyeBag – y ddyfais i leddfu llid poenus yn y llygaid