Mae ymchwiliad i danau coedwigoedd yn Awstralia’n gynharach yn y flwyddyn wedi dangos fod beiau yn y systemau rhybuddio.

Mae trigolion sy’n byw mewn ardaloedd risg uchel angen gwell gwybodaeth – a hynny’n gyflymach – er mwyn gallu dianc o’r trychinebau hyn, yn ôl adroddiad yr ymchwiliad.

Mae’r Comisiwn a fu’n gyfrifol am yr adroddiad hwn yn dweud bod angen newid y polisi sy’n rhoi’r hawl i drigolion benderfynu a ydyn nhw’n gadael eu tai ai peidio.

Yn ôl yr adroddiad, roedd y system rybuddio a fodolai ar y pryd yn “annigonol.”

Roedd rhybuddion yn cael eu gohirio a hynny’n golygu fod pobl yn cael llai o amser i ymateb iddynt na’r hyn y dylent ei gael – ac roedd rhai pobl heb dderbyn rhybudd o gwbl.

Yn ogystal, nid oedd y rhybuddion hyn yn rhoi dealltwriaeth glir o leoliad a difrifoldeb y tanau nac yn rhoi unrhyw wybodaeth ynghylch sut y dylai pobl ymateb i’r trychinebau, dywedodd yr adroddiad.

Ers y tanau, mae’r llywodraeth wedi cymeradwyo system ffôn rhybudd cenedlaethol a fydd yn gyrru rhybuddion yn awtomatig i ffonau symudol a ffonau llinellau tir.

Dylai’r system hon fod ar waith erbyn dechrau tymor y tanau gwyllt mis Tachwedd.

Un o’r ymchwiliadau mwyaf yn hanes y wlad

Bydd y comisiwn yn cyhoeddi eu hadroddiad terfynol ar y tanau fis Gorffennaf nesaf – adroddiad dros dro yw hwn i awdurdodau gael cymryd camau rhag ofn cyn dechrau tymor y tanau.

Fel rhan o’u hymchwiliad, mae’r comisiwn wedi gwrando ar 87 o dystion a hynny dros gyfnod o 35 diwrnod – dyma un o’r ymchwiliadau mwyaf o’i fath yn hanes Awstralia.

Y tanau a ysgubodd drwy ardal Victoria, 7 Chwefror yw’r rhai mwyaf peryglus y mae’r wlad wedi’u profi.

Bu 173 farw yn y tanau hyn a chafodd tros 2,000 o gartrefi eu dinistrio.