Mae ditectifs ym Manceinion sy’n ymchwilio i achos llanc a gafodd ei saethu yn ei ben mewn maes parcio, wedi enwi bachgen 16 oed y maen nhw eisiau ei holi mewn cysylltiad â’r digwyddiad.
Mae’r heddlu’n awyddus i siarad efo Moses Mathias ynglŷn â llofruddiaeth Guiseppe Gregory, 16, o Ardwick, Manceinion, a gafodd ei saethu yn ei ben tra oedd yn eistedd mewn car VW Golf ym maes parcio tafarn y Robin Hood yn ardal Stretford y ddinas.
Yn ôl yr heddlu, gall Moses Mathias fod wedi dianc i rywle yng nghanolbarth Lloegr, ac maen nhw’n rhybuddio aelodau o’r cyhoedd i beidio â mynd ato.
Mae lluniau anferth ohono’n cael eu dangos ar sgrin fawr yng Ngerddi Piccadily yng nghanol Manceinion, ac mae’r heddlu’n cynnig gwobr o £15,000 am wybodaeth a all arwain ato.
Dywedodd y Ditectif Arolygwr Paul Rumney o Heddlu Manceinion, fod yr heddlu “mor awyddus i siarad” efo Moses Mathias, fel bod y “cam anarferol” wedi ei gymryd o enwi bachgen sydd o dan 18 oed.
“Mae arnon ni angen siarad efo Moses ar fyrder,” meddai Paul Rumney. “Os oes unrhyw un yn gwybod lle mae e’, mae’n rhaid i chi gysylltu ar unwaith.”
Mae pum dyn eisoes wedi cael eu cyhuddo o droseddau mewn cysylltiad â llofruddiaeth Guiseppe Gregory, ac maen nhw’n aros i wynebu achos llys.
Llun: Moses Mathias, y bachgen y mae Heddlu Manceinion yn chwilio amdano. (PA Newswire)