Mae pennaeth cyngor Cymreig yn dweud fod dewis David Bowles yn Brif Weithredwr tros dro ar Gyngor Ynys Môn yn “benodiad gwych”.

Fe gafodd cwestiynau eu codi ar ôl iddi ddod yn amlwg fod y gweinyddwr wedi ymddiswyddo o fod yn Gadeirydd ar Ymddiriedolaeth Iechyd yn swydd Lincoln pan oedd wedi ei atal o’r swydd.

Ond, yn ôl arweinydd Cyngor Sir Pen-y-bont ar Ogwr, ble bu David Bowles yn Brif Weithredwr am chwe mis yn 2006, “fyddai Cyngor Ynys Môn ddim wedi gallu penodi neb gwell i drawsnewid sefyllfa’r cyngor”.

“Yn ystod ei gyfnod yma, roedd David Bowles yn rheolwr ffantastig. Roedd yn frwdfrydig ofnadwy a llawn mynd,” meddai Cheryl Green (dde).

“Yn y cyfarfod cyntaf, roedd cynghorwyr yn edrych arna’ i mewn rhyfeddod – roedd pawb wedi sylwi ei fod yn arbennig yn ei swydd. Maen weithiwr caled hefyd. Y neges o Ben-y-bont ar Ogwr – penodiad gwych.”