Fe fyddai newid hinsawdd o un radd yn ddigon i beryglu anifeiliaid a phlanhigion Awstralia, yn ôl adroddiad bioamrywiaeth.
Yn ôl yr adroddiad a gafodd ei gyhoeddi heddiw mewn cynhadledd ecolegol, byddai newid o’r fath yn effeithio ar gynefinoedd pwysig fel y Riff Mawr a gwlypdir gwerthfawr y gogledd orllewin.
Yn ôl pob tebyg, nid llystyfiant a phlanhigion yw’r unig bethau sydd mewn peryg, ond anifeiliaid hynod fel y quokka, y bettong a’r possum bach.
Dywedodd Peter Garrett, Gweinidog Amgylcheddol Awstralia, y byddai’r bygythiad yn cynyddu os na fydd y wlad yn gweithredu.
Llun: Y possum bach