Bydd ymgyrch hysbysebu newydd gwerth £2.3 miliwn yn cael ei lansio yng Nghymru a Lloegr heddiw i rybuddio pobol o beryglon gyrru ar ôl cymryd cyffuriau.

Bydd yr hysbyseb yn cael ei darlledu am y tro cyntaf heno ar sianel ITV 1 cyn rhaglen Coronation Street.

Fe fydd yr hysbyseb yn canolbwyntio ar un o brif effeithiau cyffuriau drwy ddangos dyn ifanc gyda chanhwyllau ei lygaid wedi chwyddo – y neges yw y bydd yr heddlu yn gweld hynny ac yn adnabod effaith cyffuriau.

Bydd unrhyw un sy’n euog o yrru dan ddylanwad cyffuriau’n debygol o wynebu 12 mis o waharddiad, record droseddol yn ogystal â dirwy – yr un cosbau ag am yfed a gyrru.

“Newid diwylliannol”

Yn ôl adroddiad gan yr Adran Drafnidiaeth, mae cymaint ag un ym mhob bob deg gyrrwr gwrywaidd ifanc sy’n cael eu lladd ar ffyrdd gwledydd Prydain o dan ddylanwad cyffuriau.

Dywedodd Arglwydd Adonis yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth wrth GMTV eu bod yn gobeithio sbarduno “newid diwylliannol” drwy’r ymgyrch ond mae ymgyrchwyr yn y maes yn amau a fydd darlledu’r hysbyseb am 7.30pm yn cyrraedd y bobol darged.