Mae arwyddion fod un arall o bwerau economaidd mawr y byd yn dod allan o ddirwasgiad.

Fe dyfodd yr economi o 3.7% yn Japan yn ystod ail chwarter y flwyddyn, a hynny’n welliant sylweddol ar y chwarter cynt.

Un elfen amlwg oedd twf o 6.3% mewn allforion o’i gymharu â thri mis cynta’r flwyddyn – y cynnydd mwya’ ers saith mlynedd. Mae allforion yn gwbl allweddol i economi’r wlad.

Ymhlith y datblygiadau sy’n cael y clod, mae cynnydd mewn masnach gyda China a marchnadoedd newydd eraill ac ymdrechion y Llywodraeth i gefnogi nwyddau ‘gwyrdd’.

Er hynny, mae diweithdra yn Japan yn aros ar 5.4%, yr ucha’ ers chwe blynedd.

Llun: Ceir yn barod i gael eu hallforio o Japan (AP Photo)