Roedd pennaeth dros dro newydd Cyngor Ynys Môn wedi gadael dwy swydd dan amgylchiadau dadleuol.

Ond y tro cynta’, ei weithredoedd ef oedd wedi tynnu sylw at lygredd o fewn cyngor sir ac at garcharu arweinydd y cyngor.

Mae cynghorwyr yr ynys wedi codi cwestiynau am y ffaith fod David Bowles wedi ymddiswyddo o fod yn Gadeirydd Ymddiriedolaeth Iechyd yn Lincolnshire ychydig wythnosau yn ôl.

Ond dydyn nhw ddim wedi sôn eto am ddigwyddiad cynharach, yn 2004, pan adawodd swydd Prif Weithredwr Cyngor Sir Lincolnshire ar ôl pum mlynedd.

Llygredd

Bryd hynny, fe gafodd David Bowles ei wthio allan o’i swydd gan y grŵp Torïaidd ar ôl tynnu sylw at lygredd eu harweinydd, ond roedd yna gefnogaeth fawr i’w safiad y tu allan i’r cyngor.

Roedd wedi galw’r archwilwyr a’r heddlu i mewn i ymchwilio i achos yr Arweinydd, Jim Speechley, a gafodd ei garcharu am 18 mis am ymyrryd mewn cais cynllunio ar gyfer ffordd osgoi.

Yn 2006, roedd David Bowles wedi ei benodi’n Brif Weithredwr tros dro Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr ac, yn ystod ei chwe mis yno, fe gafodd ganmoliaeth am drawsnewid gwaith yr awdurdod.

Ar y pryd, fe ddywedodd Arweinydd y Cyngor, Cheryl Green, na fyddai David Bowles yn gadael yr un cyngor, heb ei newid er gwell.

Dadl tros dargedi

Mae’r achos diweddara’ yn ymwneud â thargedau iechyd – fe ymddiswyddodd gan ddweud fod Ymddiriedolaeth Iechyd Ysbytai Unedig Lincolnshire yn cael eu “bwlian” i osod targedi o flaen gofal.

Ond roedd yna anghydfod hefyd gyda Chadeirydd Gwasanaeth Iechyd yr East Midlands, Sir John Brigstocke – mae’r Gwasanaeth yn dweud fod David Bowles wedi ei atal o’i swydd oherwydd pryderon ynglŷn â rheolaeth.

Y llynedd, roedd yr Ymddiriedolaeth Ysbytai wedi llwyddo i dalu ei ffordd am y tro cynta’.

Dim Cymraeg

Yr elfen ddadleuol arall ym mhenodiad David Bowles yw’r ffaith nad yw’n gallu siarad Cymraeg – er bod pob un o Gabinet yr Ynys yn siarad yr iaith. Cymdeithas yr Iaith yw un o’r mudiadau sydd wedi protestio am hynny.