Fe gafodd byddin gwledydd Prydain un o’i chyfnodau mwya’ gwaedlyd eto yn Afghanistan, gyda phum milwr yn cael eu lladd o fewn 24 awr.

Ar ôl i ffigurau’r marwolaethau godi o 199 i 201 ddoe, fe gafodd tri milwr arall eu lladd gan ffrwydrad yn nhalaith Helmand.

Er hynny, roedd arweinwyr y fyddin yn mynnu eu bod yn parhau’n “benderfynol a di-ildio” ac fe bwysleisiodd y Prif Weinidog ei fod mor benderfynol ag erioed i ddal ati yn Afghanistan.

“Mae tri chwarter y cynllwyniau terfysgol sy’n taro gwledydd Prydain yn deillio o’r mynyddoedd rhwng Pacistan ac Afghanistan,” meddai Gordon Brown.

“Mae’n rhaid i ni barchu ein hymrwymiad i gynnal Afghanistan sefydlog er mwyn cadw Prydain yn saff ac er mwyn cadw gweddill y byd yn saff.”

Roedd y tri diweddara’ i farw yn aelodau o Gatrawd y Ffiwsiliwyr Brenhinol ac mae’n golygu fod 47 o filwyr Prydeinig wedi marw yn ystod y 35 diwrnod diwetha’.

Merched yn collie eu pleidlais

Mae’r trais ar gynnydd oherwydd etholiadau arlywyddol Afghanistan sy’n digwydd yr wythnos hon.

Ond fe ddaeth yn glir fod miliynau o fenywod mewn peryg o fethu â phleidleisio am nad oes yna ddigon o swyddogion benywaidd ar gael i gynnal bythau pleidleisio i ferched yn unig.

Yn ôl un mudiad pwyso, mae angen recriwtio 13,000 yn rhagor o swyddogion yn ystod y dyddiau nesa’.

Mwyafrif eisiau gadael

Yn y cyfamser, mae pôl piniwn wedi dangos fod mwyafrif o bobol gwledydd Prydain eisiau gweld y milwyr adael Afghanistan.

Fe ddangosodd yr arolwg ar ran Sky News, fod 57% eisiau i’r milwyr ddod adref ac mai dim ond 13% sy’n deall yn iawn pam fod y fyddin yn Afghanistan yn y lle cynta’.

Llun: Milwyr Prydeinig yn mynd ar hofrennydd yn Afghanistan (Lewis Whyld  – Gwifren PA)