Mae un o benaethiaid gwasanaeth iechyd cyhoeddus Cymru wedi rhoi rhybudd iechyd i unrhyw un a fu mewn gwersyll dawns yn Sir Benfro ddiwedd Gorffennaf a dechrau Awst.

Fe ddylen nhw gymryd gofal arbennig gyda glendid, meddai Jorg Hoffman, ar ôl i ddwy ferch gael eu taro gan haint e-coli.

Mae un ferch 7 oed o Sir Ddinbych yn gwella yn ei chartre’, ond mae’r llall, sy’n 11 oed ac yn dod o orllewin y Midlands yn Lloegr, yn yr ysbyty.

Fe ddywedodd hefyd y dylen nhw gael cyngor meddygol os byddan nhw’n diodde’ o symptomau fel poenau stumog, dolur rhydd neu dwymyn.

Chwilio am bobol

Mae’r awdurdodau’n defnyddio’r wefan gymdeithasol, Facebook, er mwyn ceisio dod o hyd i bobol a phlant a fu yng ngwersyll Dance Camp Wales ar fferm yng Nghreseli, Sir Benfro.

Mae hi’n bwysig iawn golchi dwylo yn iawn, yn enwedig cyn trin bwyd, meddai’r meddyg ac roedd angen i berthnasau hefyd fod yn ofalus.

Mae Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol hefyd yn chwilio am achos y salwch – mae e-coli’n cael ei achosi gan gysylltiad gyda baw anifeiliaid, yn uniongyrchol ar dir fferm neu’n anuniongyrchol, mewn dŵr nofio er enghraifft.

Y gwersyll

Criw cymunedol o ardal Pontiets ger Llanelli sy’n trefnu’r gwersylloedd, shy’n cael eu cynnal unwaith y flwyddyn. Dyw’r gwersylloedd ddim yn fenter fasnachol ac mae’r trefnwyr yn gwrthod y “diwylliant masnachol”.