Mae’r ferch fach a neidiodd o gar eiliadau cyn iddo blymio tros glogwyn i’r môr wedi bod yn siarad am y profiad.

“Yn sicr mi faswn i wedi marw,” meddai Paige Dean, 11, o Fae Cinmel, ger Abergele. “Dydw i erioed wedi dychryn cymaint.”

Roedd y ddihangfa’n wyrthiol, yn ôl un o wirfoddolwyr gwasanaeth badau achub yr RNLI.

Fe eglurodd ei bod wedi gollwng y brêc llaw ar gar ei thaid a’i nain wrth geisio cyrraedd ei ffôn symudol ac wedi methu â’i godi eto wrth i’r car redeg trwy faes gwersylla Golden Sunset ger Benllech, Ynys Môn.

Roedd ei nain, Marie Dean, sy’n gofalu am Paige a’i brawd 7 oed, Cameron, wedi rhedeg ar ôl y car a gweld ei hwyres yn neidio allan cyn i’r car gwympo mwy na 200 troedfedd i’r môr. Roedd y taid yn meddwl i ddechrau ei bod hi wedi ei lladd.

Mae Marie Dean bellach yn chwilio am gar newydd.