Cafodd tri milwr arall o Brydain wedi cael eu lladd yn Affganistan y bore yma – oriau’n unig ar ôl i gyfanswm y colledion groesi’r 200 am y tro cyntaf (gweler stori isod).

Bu farw’r tri milwr o Ail Fataliwn Catrawd Brenhinol y Ffiwsilwyr ar ôl ymosodiad arnyn nhw pan oedden nhw ar batrol ger Sangin yn nhalaith Helmand.

Dywedodd y Weinyddiaeth Amddiffyn fod eu teulu agosaf wedi cael gwybod.

Golyga hyn fod cyfanswm y milwyr o Brydain sydd wedi eu lladd yn Affganistan ers 2001 wedi codi i 204.

Cadarnhawyd heddiw hefyd fod cyn-filwr o Ogledd Iwerddon wedi cael ei ladd yn Herat yng ngorllewin Affganistan ddoe.

Roedd Stuart Murray, 40 oed, o Ballykelly, Swydd Derry, yn gweithio i gwmni diogelwch preifat. Hyd at 2006 bu’n gwasanaethu ym myddin Prydain am 21 mlynedd.

Llun: Baneri Jac yr Undeb a’r 19 Light Brigade ar hanner mast yn Lashkar Gah, Talaith Helmand yn Affganistan heddiw, er cof am y 200fed a’r 201fed milwyr o Brydain i gael eu lladd. (Lewis Whyld/PA Wire)