Mae dwy ferch ifanc wedi dal yr haint peryglus e-coli O157 ar ôl bod mewn digwyddiad dawnsio yn Sir Benfro.

Roedd merch 11 oed o Ganolbarth Lloegr a merch 7 oed o Sir Ddinbych wedi mynd yn sâl ar ôl bod mewn Gwersyll Dawnsio yng Nghreseli rhwng 29 Gorffennaf a 9 Awst.

Mae Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru yn pwyso ar unrhyw un a fynychodd y digwyddiad i gysylltu â’u meddyg teulu os ydynt yn profi symptomau o’r haint, fel poen abdomenol, diarrhoea a thwymyn.

Mae’r mwyafrif o bobl yn gwella’n llwyr o’r haint, ond gall yr achosion mwyaf difrifol arwain at fethiant yr arennau.

Mae trefnwyr y Gwersyll Dawnsio’n gweithio gydag adran gwarchod y cyhoedd Cyngor Sir Benfro a’r Gwasanaeth Iechyd i geisio darganfod ffynhonnell yr haint.

Maen nhw’n gofyn ar i bobl a fu yn y gwersyll gysylltu â’r cyngor ar 01437 764551 neu foodsafety@pembrokeshire.gov.uk er mwyn ceisio cael darlun cyn lawned ag sy’n bosibl o’r graddau y mae’r haint wedi lledaenu.