Fe wnaeth tân mewn priodas yn Kuwait neithiwr ladd 41 o ferched a phlant wrth i babell y wledd gael ei llosgi’n ulw mewn tri munud.
Dywedodd pennaeth brigâd dân y wlad, Jassem al-Manouri fod yr olygfa’n erchyll gyda phentwr o gyrff ac esgidiau wrth unig allanfa’r babell.
Dywedodd fod awdurdodau’r wlad yn cynnal profion DNA i adnabod y 35 o ferched a’r chwech o blant a laddwyd y tân, gan fod y cyrff wedi llosgi i gymaint graddau.
Mae’r awdurdodau hefyd yn ymchwilio i achos y tân, a allai fod o ganlyniad i wifrau trydan diffygiol neu’r tanwydd a ddefnyddiwyd ar gyfer llosgi arogldarth.
Dywedodd Mr al-Mansouri mai dyma’r tân gwaethaf iddo’i weld ar ôl gweithio bron i 40 mlynedd yn y gwasanaeth tân.
Mae lluniau’n dangos fod y babell wedi ei gosod mewn cymdogaeth boblog yn ninas Kuwait. Roedd yn 12 metr o hyd a byddai wedi gallu dal hyd at 180 o bobl.
Nid yw’n glir a oedd y briodferch ymysg y rhai a gafodd ei lladd nac ychwaith faint o bobl a oedd yn y babell pan aeth ar dân. Mae 58 o bobl yn dal mewn ysbytai, gyda rhai ohonynt mewn cyflwr difrifol.
Mae gwleddoedd priodasol yn cael eu cynnal ar wahân i ferched a dynion yn Kuwait, gyda phlant yn mynychu digwyddiad y merched.
Llun: Y gweddillion wedi’r tân mewn pabell briodasol yn ninas Kuwait neithiwr lle bu farw 41 o wragedd a phlant mewn tân a barhaodd dri munud. (AP Photo)