Roedd gyrrwr fan yn cael ei holi gan yr heddlu heddiw ar ôl i’r teithiwr gydag ef farw wedi gwrthdrawiad.

Bu farw dyn 21 oed ar ôl i fan Volkswagen Caddy wen fynd i Afon Llynfi ar Ffordd Pen-y-bont ym Maesteg am 2 o’r gloch fore heddiw.

Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru fod y dyn yn gaeth y tu mewn i’r fan ar ôl iddi droi drosodd yn yr afon gerllaw’r gyffordd gyda Ffordd Ewenni. Er gwaethaf ymdrechion i’w achub, cadarnhawyd ei fod eisoes wedi marw.

Cafodd teithiwr arall, menyw 33 oed, hefyd ei hanafu’n ddifrifol yn y ddamwain ac mae’n cael triniaeth yn ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont. Ni chredir bod ei hanafiadau’n peryglu ei bywyd.

Dywedodd Heddlu De Cymru fod y gyrrwr, sydd hefyd yn 21 oed, wrthi ar hyn o bryd yn “cynorthwyo’r heddlu gyda’u hymchwiliadau”.

Maen nhw’n apelio ar i unrhyw dystion gysylltu â nhw ar 0800 555 111.