Mae’r wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth y Cynulliad yn dangos fod ffliw moch yn dal i gynyddu ac wedi lledaenu i bob sir yng Nghymru.

Mae amcangyfrif o dros 1200 o bobl wedi cael diagnosis o ffliw moch ar sail disgrifiad o’u symptomau dros y ffôn wrth eu meddygon teulu yng Nghymru dros yr wythnos ddiwethaf. Ni fydd ffliw moch ar bob un o’r bobl hyn ac ni fydd pawb â symptomau tebyg i ffliw yn cysylltu â’u meddyg teulu.

Nifer llawer is – sef 105 o achosion – sydd wedi eu cadarnhau drwy brofion labordy yng Nghymru, gydag un achos newydd yr wythnos ddiwethaf, sef menyw 49 o Gaerdydd a gafodd driniaeth mewn ysbyty ond sydd bellach yn gwella gartref.