Mae criwiau chwilio wedi dod o hyd i’r llong a suddodd yn y môr ger ynys Tonga wythnos yn ôl ond mae 93 o bobol yn dal i fod ar goll.
Dywedodd Chris Kelley o heddlu Tonga bod y llong – y Princess Ashika – wedi cael ei chanfod 85 milltir o’r brifddinas Nuku’alofa, a hynny mewn dyfnder o 360 troedfedd.
Hyd yma, dim ond dau berson sydd wedi eu cael yn farw ond mae’r awdurdodau’n dweud nad oedd llawer o obaith i ddod o hyd i’r 93 arall yn fyw.
Un o’r rhai i farw ar y llong oedd y Prydeiniwr Dan MacMillan, 48 oed, a oedd yn byw yn Seland Newydd erbyn hyn.