Mae Caerdydd ac Abertawe wedi ennill eu gemau i sicrhau eu lle yn ail rownd Cwpan Carling.
Fe lwyddodd Caerdydd i guro Dagenham & Redbridge o Gynghrair Dau o 3-1 yn Stadiwm Dinas Caerdydd, gyda Gavin Rae, Jay Bothroyd a Peter Whittingham i gyd yn sgorio.
Roedd Caerdydd heb saith o chwaraewyr oherwydd y gemau rhyngwladol ac, er i’r ymwelwyr ddod â hi’n ôl i 2-1 ar un adeg a chael ambell gyfle i unioni’r sgôr, wnaethon nhw ddim rhoi Caerdydd dan lawer o bwysau.
Yr unig beth negatif a ddaeth o’r gêm i Gaerdydd oedd ffrae rhwng yr ymosodwyr Michael Chopra a Jay Bothroyd dros bwy oedd yn cael cymryd cic gosb. Bu raid i’r capten Mark Hudson ymyrryd.
Mae’n allweddol i lwyddiant Caerdydd bod Chopra a Bothroyd yn cydweithio’n dda’r tymor hwn.
Dobbie’n dechrau’n dda
Wedi’r siom o golli eu gêm gynta’ yn y Bencampwriaeth, fe wnaeth Abertawe daro’n ôl gyda buddugoliaeth haeddiannol yn erbyn Brighton.
Y capten, Gary Monk, a gafodd y gôl gyntaf i Abertawe gyda Stephen Dobbie yn ychwanegu dwy arall i drechu’r clwb o Gynghrair Un o 3-0.
Gyda Jason Scotland wedi gadael am Wigan yn ystod yr haf, fe fydd Paulo Sousa yn hapus iawn i weld ei ymosodwr newydd yn dechrau’r tymor yn dda.