Doedd ganddyn nhw ddim masgiau, dim ond siwtiau smart – mae’r heddlu wedi cyhoeddi lluniau o’r ddau ddyn a lwyddodd i ddwyn gwerth £40 miliwn o emau o siop yn Llundain.

Fe ddigwyddodd y lladrad yr wythnos ddiwetha’ ond dim ond yn awr y mae’r lluniau teledu cylch cyfyng wedi eu dangos.

Yn ôl heddlu Scotland Yard, mae’r ddau ddyn yn beryglus iawn – roedd ganddyn nhw ddau ddryll ac roedden nhw wedi tanio bwledi i’r llawr wrth gyrraedd y siop ac i’r awyr wrth adael.

Roedden nhw wedi cymryd un o weithwyr y siop yn wystl wrth iddyn nhw ddwyn y 43 eitem o siop Graff yn New Bond Street, un o strydoedd druta’r ddinas.

Cynllunio’n ofalus

Mae’n ymddangos fod eu golwg smart wedi twyllo’r gwylwyr wrth y drws. Dim ond ychydig funudau gymerodd hi iddyn nhw ac fe ddefnyddion nhw sawl car gwahanol wrth ddianc.

Yn ôl yr heddlu, roedd y lladrad – y lladrad gemau mwya’ erioed yng ngwledydd Prydain – wedi ei gynllunio’n ofalus.

Llun: Heddlu/Gwifren PA