Mae pobol dlawd dair gwaith yn fwy tebyg o farw o strôc na phobol fwy cefnog, yn ôl adroddiad newydd.

Mae’n honni fod patrwm cyson sy’n dangos cysylltiad clir rhwng tlodi ac amddifadedd a’r peryg o farw’n gynnar oherwydd strociau.

Fe gafodd yr ystadegau eu cyhoeddi gan y Gymdeithas Strôc a Sefydliad Prydeinig y Galon, sydd wedi casglu gwybodaeth o bob rhan o wledydd Prydain.

Ymhlith y 5% mwya’ tlawd, mae dynion dair gwaith a hanner yn fwy tebyg o gael strôc a merched ddwy waith a hanner.

Yn aml, yn ôl yr adroddiad, mae pobol sy’n gymharol dlawd yn fwy tebyg o fyw mewn ffordd sy’n cynyddu’r perygl, gyda mwy yn ysmygu ac yn rhy dew.

“Mae’r ystadegau ofnadwy yma yn dangos eich bod chi dair gwaith yn fwy tebyg o farw o strôc os ydych chi’n dlawd,” meddai Joe Korner, Cyfarwyddwr Cyfathrebu’r Gymdeithas Strôc. “Fe fydd lleihau anghyfartaledd mewn cymdeithas hefyd yn lleihau anghyfartaledd o ran iechyd.”

Yfed yn fygythiad hefyd

Pobol broffesiynol ac mewn swyddi rheoli yw’r grŵp arall sy’n wynebu peryg llawer mwy o strôc.

Maen nhw yn fwy tebyg o yfed yn wyllt ac o yfed bum diwrnod neu fwy bob wythnos. Yn ôl yr adroddiad, mae yfed gormod yn gyson yn cynyddu’r peryg dair gwaith.

Yn ôl Y Gymdeithas Strôc, mae modd atal 40% o achosion trwy newidiadau bach mewn ffordd o fyw.