Mae gwylwyr y glannau wedi rhoi rhybudd i bobol sy’n mentro allan mewn cychod heb baratoi’n iawn.

Fe fu’n rhaid i ddau fad achub fynd allan i’r môr ym Mhorth Llechog, Ynys Môn, neithiwr ar ôl i gwch cyflym fynd i drafferthion.

Yn ôl gwylwyr y glannau yng Nghaergybi, roedd dau lanc 16 oed a thad un ohonyn nhw wedi mentro allan heb radio VHF, heb ffôn symudol, na digon o ddillad a gyda dim ond dwy siaced achub rhwng tri.

Yn y diwedd, fe gawson nhw eu hachub bum milltir allan, yn oer ond heb eu hanafu, gyda’r tywydd yn dirywio o’u cwmpas.

“Mae yna wersi diogelwch sylfaenol i’w dysgu gan unrhyw un sy’n bwriadu gwneud yr un peth,” meddai un o reolwyr gwylwyr y glannau yng Nghaergybi, Barry Priddis.

Fe soniodd am restr o bethau angenrheidiol:

• Ffordd o gysylltu â’r lan
• Fflachiadau i dynnu sylw
• Golau rhag ofn iddi dywyllu
• Digon o siacedi achub
• Dillad sbâr, sych

Llun: Gwylwyr y glannau Caergybi