Mae ymgyrch newydd wedi dechrau yng Nghymru i rybuddio am ffliw’r moch – ac i egluro sut i ymateb.

Ac er bod nifer yr achosion bellach wedi cwympo ychydig, mae penaethiaid y Gwasanaeth Iechyd yn dweud fod angen aros yn wyliadwrus.

Fe fydd yr ymgyrch yn digwydd trwy’r wasg ac ar y radio a’r gobaith yw y bydd yn cael sylw gan ymwelwyr hefyd.

Mae’r hysbysebion yn rhoi cyngor am ffyrdd o osgoi’r ffliw a beth i’w wneud ar ôl ei ddal.

Dyw Cymru ddim wedi ymuno gyda’r gwasanaeth arbennig sydd wedi ei sefydlu yn Lloegr, gan ddibynnu ar hyfforddi rhagor o bobol ar gyfer llinell gymorth arferol y Gwasanaeth Iechyd.

Gwyliadwrus

Er gwaetha’r cwymp yn nifer yr achosion,  roedd Dirprwy Brif Swyddog Meddygol Cymru yn rhybuddio rhag difaterwch.

“Am fod y niferoedd wedi cwympo, mae’n bwysig gwneud yn siŵr nad yw pobol yn mynd yn ddifater a’u bod yn parhau i god yn wyliadwrus er mwyn ei atal rhag lledu,” meddai Jane Wilkinson.