Mae parafeddyg sydd wedi ei gyhuddo o gael rhyw geneuol (oral) mewn maes parcio ysbyty tra ar ddyletswydd, yn mynnu mai ceisio cysuro dynes yr oedd o.

Cafodd David Brammer, sy’n briod, ei weld ar deledu CCTV mewn car ym maes parcio Ysbyty Cyffredinol Ardal Rotherham y llynedd gyda phen dynes ar ei lin.

Roedd Ainsley Dale – swyddog diogelwch yn yr ysbyty – yn credu iddo weld dynes yn rhoi rhyw geneuol i David Brammer ar yr offer CCTV.


Yn sedd y gyrrwr

Er gwaetha’r dystiolaeth, mae’r gyrrwr Ambiwlans wedi gwadu camymddygiad mewn gwrandawiad yn y Cyngor Proffesiynau Iechyd yn ne Llundain.

Mae’n dweud nad oedd o a’r ddynes wedi cymryd rhan mewn gweithred rywiol.

Cafodd y fideo CCTV ei chwarae y tu ôl i ddrysau caeedig yn y gwrandawiad a hynny i arbed cywilydd i David Brammer.