Mae arweinwyr gŵyl flynyddol y BNP wedi mynnu heddiw mai ‘digwyddiad i’r teulu’ fydd o eleni gan dweud na fydd ‘trwbwl’ yno.
Bydd gŵyl flynyddol y blaid, y ‘Red, White and Blue Festival’, yn para tridiau ac yn cael ei gynnal y penwythnos yma yn Condor, Swydd Derby.
Fodd bynnag, mae’r ŵyl wedi denu protestwyr gwrth BNP yn y gorffennol ac mae hynny wedi arwain at drais.
Mae disgwyl i brotestwyr sy’n gwrthwynebu’r BNP darfu ar yr ŵyl ddydd Sadwrn nesaf.
Mae Heddlu Swydd Derby wedi cadarnhau y bydd Heddlu’n rheoli’r digwyddiad ac maen nhw wedi dweud na fydden nhw’n caniatau cymaint o brotestio eleni.
Cafodd 30 o brotestwyr eu harestio yn yr ŵyl y llynedd.