Mae maswr Iwerddon, Ronan O’Gara, wedi cwestiynu penderfyniad tîm hyfforddi’r Llewod i ddewis Stephen Jones o’i flaen e’ yn y gemau prawf.

Mae’r Gwyddel yn credu iddo gael cam o bedio cael ei ddewis i ddechrau’r gemau prawf yn erbyn De Affrica – er gwaetha’r ffaith iddo wneud camgymeriad allai fod wedi colli’r gyfres iddyn nhw.

Fe wnaeth chwaraewr Munster gyhuddo’r tîm hyfforddi, a oedd yn cynnwys Warren Gatland, Shaun Edwards a Rob Howley, o benderfynu ymhell o flaen llaw mai Jones fyddai’r maswr i ddechrau prawf cyntaf.

“Efallai bod y tîm rheoli wedi penderfynu mai Stephen oedden nhw am ddewis. Wnaeth y gêm brawf gyntaf ddim mynd yn dda iawn iddo, ond fe gafodd e’ i ddewis eto”, cwynodd O’Gara wrth bapur newydd y Western Mail.

Cyfuniad

Dywedodd O’Gara nad oedd ganddo broblem chwarae gyda’r mewnwr Mike Phillips.

Gwrthododd yr awgrym mai profiad Stephen Jones o chwarae gyda Phillips edd y prif reswm dros ddewis maswr y Scarlets o’i flaen.

Mae’r Gwyddel hefyd wedi amddiffyn ei berfformiad yn yr ail brawf ar ôl iddo ddod ymlaen fel eilydd, a rhoi 10 pwynt i’r Bocs mewn 10 munud.

Fe fethodd o dacl i atal canolwr y Jaque Fourie rhag sgorio cais, ac fe roddodd gic gosb i Dde Affrica yn eiliadau olaf yr ail brawf.

Ond mae O’Gara wedi dweud ei fod dal yn teimlo ychydig yn ansefydlog ar ei draed ar ôl tacl rymus gan Pierre Spies arno ychydig cyn i Fourie groesi’r llinell gais.

‘Penderfyniad cywir’

Roedd cic wych Stephen Jones wedi dod â’r Llewod yn gyfartal â De Affrica – 25-25, cyn i gyfres o gamgymeriadau gan O’Gara roi’r fantais nôl yn nwylo’r Springboks.

Gyda O’Gara yn derbyn y bêl yn hanner ei hun fe benderfynodd y Gwyddel barhau i ymosod i chwilio am y fuddugoliaeth yn hytrach na chicio’r bêl i’r ystlys i sicrhau gêm gyfartal.

Er i’r penderfyniad gael ei feirniadu gan nifer, mae O’Gara yn mynnu y byddai’n gwneud yr un peth eto.