Mae efeilliaid wedi dyweddïo o fewn 24 awr i’w gilydd, mewn dwy wlad gwahanol – heb wybod bod y llall wedi gwneud.

Fe wnaeth David Gladwin, 25, ddyweddïo â Rachel Parry nos Sadwrn ddiwetha’.

Ychydig oriau yn ddiweddarach, a 2,500 o filltiroedd i ffwrdd, dyweddïodd Stephen Gladwin a Sharon Hignett tra roedd y ddau ar eu gwyliau yn yr Aifft.

“Ers oedd y ddau yn fach, roedden nhw’n hoffi treulio amser gyda’i gilydd. Rydyn ni’n deulu agos iawn,” meddai eu mam, Susan Gladwin, wrth y Daily Post.

Arolygydd yw Stephen gyda chwmni ‘Mostyn Estates’ ac mae David yn gweithio fel gwas sifil.

Mi fydd y ddau gwpwl yn cael priodasau ar wahân, ac ar ddiwrnodau gwahanol.

(Llun: Daveness 98)