Mae Dave Jones wedi beirniadu’r penderfyniad i gynnal gemau Cwpan Carling yr un pryd â gemau rhyngwladol.

Bydd Caerdydd yn croesawu Dagenham & Redbridge i Stadiwm Dinas Caerdydd heno ar gyfer rownd cyntaf Cwpan y Carling.

Ond fe fydd rhaid iddyn nhw chwarae heb Joe Ledley, David Marshall a Ross McCormack sydd wedi cael eu dewis i gynrychioli eu timau rhyngwladol.

Mae Jones yn credu bod rhaid i’r awdurdodau pêl droed sylweddoli bod gan nifer o glybiau’r bencampwriaeth chwaraewyr rhyngwladol.

Chwaraewyr dan 21

Yn ogystal, fe fydd yr Adar Glas heb bedwar o’u chwaraewyr ifanc sydd ar ddyletswydd gyda’u timau rhyngwladol dan 21.

Mae Adam Matthews, Darcy Blake ac Arron Morris wedi’u cynnwys yng ngharfan dan 21 Cymru, tra bod y golwr, Josh Magennis, gyda charfan dan 21 Gogledd Iwerddon.

Ond mae’r golwr, Peter Enckelman, wedi cael ei ryddhau o garfan y Ffindir er mwyn bod ar gael i chwarae i Gaerdydd.

Abertawe

Bydd Brighton o Gynghrair Un yn teithio i dde Cymru i wynebu Abertawe yn y Stadiwm Liberty heno.

Dyw Joe Allen ddim ar gael oherwydd iddo anafu llinyn y gâr – ond ni fyddai e’ ar gael beth bynnag gan iddo gael ei ddewis yng ngharfan dan 21 Cymru.

Bydd Abertawe hefyd heb yr amddiffynnwr, Ashley Williams, sydd ym Montenegro gyda Chymru.