Mae’r cyn bêl-droediwr rhyngwladol John Hartson wedi cael dod o’r ysbyty heddiw ble’r oedd yn cael triniaeth am ganser.
Roedd cyn-flaenwr Cymru, a fu’n chwarae hefyd tros glybiau mawr fel Arsenal a Celtic, wedi cael mwy nag un driniaeth frys yn Ysbytai Treforys a Singleton Abertawe.
Mewn datganiad dywedodd Ymddiriedolaeth Brifysgol Abertawe a Bro Morgannwg: “Mae John Hartson wedi cwblhau cyfnod cyntaf ei driniaeth cemotherapi ac wedi ei ollwng o’r ysbyty. Fe fydd yn parhau gyda’r driniaeth cemotherapi fel claf allanol.”
Diolch
Dywedodd teulu John Hartson y bydden nhw’n “hoffi diolch i’r holl staff yn ysbytai Treforys a Singleton am eu cefnogaeth” wrth drin John Hartson.
“Mae John yn falch o fod yn ôl gyda’i deulu, ac yn barod i wynebu camau nesaf ei gemotherapi.”
Cafodd John Hartson ei ruthro i’r ysbyty fis diwethaf ar ôl i’r canser yn ei geilliau ledaenu i’w ymennydd a’i ysgyfaint.