Bydd cannoedd o bobol yn ffarwelio â’r gŵr hynaf o’r Rhyfel Byd Cyntaf heddiw

Bu farw Henry Allingham yn 113 oed ddeuddeg diwrnod yn ôl a bydd y cynebrwng yn dechrau yng nghartref gofal St Dunstan’s ger Brighton yn nwyrain Sussex.

Bydd teulu, ffrindiau a chynrychiolwyr o’r Llynges Frenhinol a’r RAF mewn gwasanaeth yn Brighton, ynghyd â phwysigion fel y Gweinidog o’r Weinyddiaeth Amddiffyn, Kevin Jones, Pennaeth y Staff Awyr, Syr Stephen Dalton, Duges Caerloyw.

Fe fydd biwglwyr yn seinio’r Caniad olaf a phum replica o awyrennau’r Rhyfel Byd Cyntaf yn hedfan heibio cyn i ynnau danio 113 o weithiau.

Gwasanaethodd Henry Allingham gyda’r Royal Naval Air Servcie – rhagflaenydd y Llu Awyr – trwy gydol y Rhyfel Mawr a bu’n dyst i rai o’i frwydrau mwyaf gwaedlyd gan gynnwys Jutland yn 1916 a Passchendale flwyddyn yn ddiweddarach.

“Diwedd Oes”

“Wna’ i byth ei anghofio. Dw i wedi bod yng nghynebrwng sawl cyn-filwr ond dyma’r un mwyaf arbennig i mi, mae’n ddiwedd oes.” – Dennis Goodwin, sylfaenydd Cymdeithas Cyn-Filwyr Prydain.