Bydd Michael Schumacher yn dychwelyd i Fformiwla Un i gymryd lle Felipe Massa dros dro.
Roedd yr Almaenwr, sydd wedi ennill y bencampwriaeth saith o weithiau, wedi ymddeol yn 2006 ond fe benderfynodd ddod yn ôl i lenwi sedd ei ffrind, sy’n ddifrifol wael ar ôl damwain.
Ond, ac yntau’n cael ei ystyried yn uno’r gyrwyr gorau erioed, fe fydd Schumacher, sy’n 40 oed, yn rasio i Ferrari unwaith eto yng Ngrand Prix Ewrop yn Valencia ar 23 Awst.
“Fe gwrddais â Stefano Domenicali (pennaeth Ferrari) a Luca di Montezemolo (Llywydd Ferrari), a gyda’n gilydd fe gafodd ei benderfynu fy mod am baratoi i gymryd lle Felipe. Fel cystadleuydd, rwy’n edrych ymlaen at y sialens”, meddai Michael Schumacher.
Mae Ferrari wedi cadarnhau’r newyddion, ond fe fydd rhaid i Schumacher fynd trwy ymarferion trwyadl yn ystod yr wythnosau nesa’.