Mae Heddlu Dyfed Powys yn apelio am dystion ar ôl i ddyn 19 oed farw mewn damwain ffordd yn gynt yr wythnos hon

Digwyddodd y ddamwain ddiwedd prynhawn dydd Mawrth ar yr A487, i’r de o Aberystwyth, ym Mhen Cwm Mawr ger Blaenplwyf.

Mae’r heddlu’n arbennig o awyddus i glywed gan yrrwr fan wen oedd yn teithio ar y ffordd tua’r gogledd gan fod posibilrwydd ei fod wedi gweld y ddamwain.

Fe gafodd y dyn lleol, 19 oed, ei ladd pan fu Renault Clio mewn gwrthdrawiad â lorri. Roedd ef yn deithiwr yn sedd flaen y car.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â Heddlu Dyfed Powys ar 101.

Llun: Roedd yr ambiwlans awyr wedi ei galw ac fe fu;r ffordd ar gau am oriau.