Bydd dynes sy’n dioddef o’r cyflwr angeuol sclerosis ymledol yn cael gwybod heddiw a fydd yn llwyddo gyda’i brwydr i ganiatáu i’w gŵr ei helpu i farw.
Ar ôl colli mewn llysoedd is, mae Debbie Purdy o ardal Bradford wedi mynd â’i hachos gerbron Arglwyddi’r Gyfraith, y llys uchaf yng ngwledydd Prydain.
Mewn gwrandawiad ynghynt, fe ofynnodd Debbie Purdy, 46, i’r Arglwyddi ddweud a fyddai ei gŵr, Omar Puente, yn debyg o gael ei erlyn petai’n ei helpu i ddiweddu ei bywyd.
Dim erlyn hyd yn hyn
Mae tua 115 o bobol o wledydd Prydain wedi cael cymorth i farw yng nghlinic Dignitas yn y Swistir ond, hyd yn hyn, does neb o’u perthnasau na’u ffrindiau wedi cael eu herlyn.
Dywedodd cynrychiolydd Debbie Purdy, Arglwydd Pannick QC, y byddai’r bygythiad o erlyn yn golygu fod rhaid i Debbie Purdy farw ynghynt – fe fyddai’n rhaid iddi weithredu cyn mynd yn ddibynnol ar gymorth ei gŵr.
“Mae’n eironig,” meddai, “fod polisi sydd wedi’i lunio i amddiffyn bywydau pobol sy’n marw yn cael yr effaith o fyrhau eu bywyd ”.
Y cyd-destun
Yn gynharach yn y mis, gwrthododd Tŷ’r Arglwyddi fesur a fyddai’n caniatau i bobl fynd dramor i helpu rhywun i ddiweddu eu bywyd.
Yr wythnos ddiwetha’, fe benderfynodd Coleg Brenhinol y Nyrsys roi’r gorau i wrthwynebu’r arfer.