Mae’n bosib y gallai rhai o gemau Cwpan Rygbi’r Gynghrair y Byd yn 2013 gael eu chwarae yng Nghymru.

Cafodd ei gyhoeddi ddoe y bydd y gystadleuaeth yn cael ei chynnal ym Mhrydain.

Dyw’r meysydd i gynnal y gemau heb gael eu dewis eto. Ond mae awdurdodau’r gêm yn ystyried cynnal rhai o’r gemau yng Nghymru ar ôl gwneud hynny’n llwyddiannus yn 1995 a 2000.

Mae’r bencampwriaeth wedi cael ei symud o 2012 i 2013 er mwyn sicrhau nad yw’n gwrthdaro gyda’r Gemau Olympaidd.

Cwpan Ewrop

Bydd Cymru yn cystadlu yn erbyn Serbia ar 24 Hydref ac Iwerddon ar 1 Tachwedd yng nghwpan Ewrop. Mae rownd derfynol y gystadleuaeth yn cael ei chynnal yr wythnos wedyn ar Gae’r Bragdy.

Mae enillwyr Cwpan Ewrop yn cael cystadlu yn erbyn Awstralia, Seland Newydd a Lloegr ym Mhencampwriaeth y Pedair Gwlad yn 2011.