Mae Portsmouth wedi gwneud ymholiadau ynglŷn ag ymosodwr Caerdydd, Ross McCormack.

Mae’n debyg fod clwb yr Uwch Gynghrair wedi gofyn pa bris mae Caerdydd wedi ei osod ar yr Albanwr.

Mae Portsmouth newydd werthu Peter Crouch i Tottenham am £9m, felly mae ganddynt arian i wario. Ond mae’n debyg bod Caerdydd am ryw £5m am eu prif sgoriwr.

Fe wnaeth McCormack ddweud ar ddechrau’r wythnos ei fod am adael Caerdydd oherwydd ei fod yn pryderu na fyddai’n chwarae’n ddigon cyson i’r tîm cyntaf.

Mae e’ hefyd wedi dweud yn y gorffennol ei fod am chwarae yn yr Uwch Gynghrair pe bai’n cael y cyfle.

Penodi capten

Mae disgwyl i amddiffynnwr newydd Caerdydd, Mark Hudson, gael ei benodi’n gapten newydd y clwb y tymor ‘ma.

Gyda dyfodol Joe Ledley yng Nghaerdydd yn dal yn y fantol, mae Dave Jones am sicrhau bod ganddo gapten sy’n gwbl ymroddedig i’r achos.

Mae gan Hudson ddigon o brofiad o arwain, ar ôl bod yn gapten ar ei ddau glwb blaenorol, sef Crystal Palace a Charlton.