Mae ymosodwr newydd Sheffield Utd, Ched Evans, wedi cael ei gynnwys yng ngharfan dan 21 Cymru ar gyfer y gêm ragbrofol yn erbyn Hwngari.

Bydd Joe Allen ac Andy King, sydd hefyd wedi ennill capiau llawn, yn ymuno ag Evans yn y garfan.

Ond mae’n edrych yn debyg y bydd Aaron Ramsey yn cael ei gynnwys yn y garfan hŷn – wrth iddyn nhw chwarae gêm gyfeillgar yn erbyn Montenegro.

Cafodd 18 dyn eu dewis ar gyfer y garfan dan 21, ond mae’r rheolwr Brian Flynn hefyd wedi dewis naw chwaraewr ychwanegol – fydd yn barod i deithio os fydd angen.

Carfan dan 21 Cymru

Chris Maxwell (Wrecsam), Rhys Taylor (Chelsea), Darcy Blake (Caerdydd), James Bloom(Falkirk), Arron Morris (Caerdydd), Christian Ribeiro (CPD Dinas Bryste), Ashley Richards (Abertawe), Neil Taylor (Wrecsam), James Wilson (CPD Dinas Bryste), Joe Allen (Abertawe), Mark Bradley (Walsall), Nathan Craig (Everton), Andy King (Caerlŷr), Shaun MacDonald (Abertawe), Joe Partington (AFC Bournemouth), Ched Evans (Sheffield United), Casey Thomas (Abertawe), Marc Williams (Wrecsam)

Chwaraewyr ychwanegol

Jonathan North (Watford), Daniel Alfei (Abertawe), Adam Matthews (Caerdydd), Billy Bodin (Swindon ), Ryan Doble (Southampton), Lee Lucas (Abertawe), Jonathan Brown (Heb glwb), Kayne McLaggon (Southampton), Jake Taylor (Reading)