Mae Undeb Rygbi Cymru wedi cyhoeddi newidiadau i’w prif gystadlaethau ar gyfer y tymor nesaf.

Bydd newid i batrwm yr Uwch Gynghrair Principality. Fe fydd wyth clwb uchaf y gynghrair ar ddiwedd y tymor arferol, yn mynd ‘mlaen i gystadlu mewn gemau ail gyfle.

I’r clybiau fydd yn y chwe safle uchaf y wobr fydd lle yng Nghwpan Prydain ac Iwerddon sy’n cychwyn y tymor nesaf.

Bydd y tymor arferol yn gorffen ar 10 Ebrill 2010. Yna bydd y gemau ail gyfle yn cychwyn gyda’r rownd derfynol ar 23 Mai.

“Rydym yn creu diwedd cystadleuol iawn i’r tymor a fydd yn galluogi’r cefnogwyr i weld rygbi o safon. Rwyf am ddiolch i glybiau Uwch Gynghrair Principality am gofleidio’r newidiadau ac i helpu ni i greu rhywbeth bydd chwaraewyr a chefnogwyr yn mwynhau,” meddai Joe Lydon, Pennaeth Perfformiad a Datblygu Rygbi URC.

Dywedodd Cadeirydd clybiau’r Uwch Gynghrair, Chris Clarke, ei fod yn gyfnod cyffrous a bod y newidiadau’n cael eu croesawu ganddynt.

Cwpan Cymru

Mae patrwm Cwpan Swalec Cymru yn newid y tymor nesaf hefyd.

Dim ond clybiau’r Uwch Gynghrair ac Adran Un fydd yn cystadlu am y Cwpan.

Fe fydd gweddill clybiau Cymru yn cael eu rhannu i chwarae yng nghystadlaethau’r Plât a’r Bowlen.

Mae clybiau adrannau Dau, Tri ac Adran Un y Gogledd yn cystadlu am y Plât. Bydd clybiau adrannau pedwar, pump, chwech ac Adran Dau y Gogledd yn chwarae am y Bowlen.

Yn ôl URC mae hyn yn galluogi mwy o glybiau i wireddu eu breuddwydion o chwarae yn Stadiwm y Mileniwm.