Mae teuluoedd 18 o bobol ifanc rhwng naw a 22 oed, oedd yn honni fod cyngor yn sir Northampton yn gyfrifol am eu hanableddau corfforol, wedi ennill eu hachos.

Roedd y bobol ifanc wedi honni bod llygredd tocsig wedi arwain at yr anableddau sy’n effeithio’r traed a’r dwylo, pan oedd eu mamau’n feichiog yn ystod y cyfnod rhwng 1985 a 1999, wrth i hen waith dur gael ei glirio.

Gwadodd Cyngor Bwrdeistref Corby y cyhuddiad o esgeulustod wrth glirio hen waith dur British Steel yn Corby, gan fynnu nad oedd cysylltiad rhwng trosglwyddo gwastraff o’r safle ac anableddau corfforol y bobol ifanc.

Ond penderfynodd yr Ustus Akenhead yn yr Uchel Lys yn Llundain heddiw, fod y cyngor wedi bod yn esgeulus yn ystod y gwaith clirio.

Er hyn, dywedodd nad oedd ei ddyfarniad yn gymwys yn achos y ddau person ifancaf oedd yn hawlio.

Ymatebodd y cyngor gan ddweud eu bod yn siomedig, a’u bod yn parhau i wadu’r cyhuddiad.