Fe gafodd cwmni ynni, sydd â dau safle yng Nghymru, eu beirniadu am hysbysebu fferm wynt mewn ffordd a allai gamarwain y cyhoedd.

Yn ôl yr Awdurdod Safonau Hysbysebu, roedd lluniau a ddefnyddiwyd gan E.on Climate and Renewables UK ar gyfer fferm wynt yng ngogledd Lloegr yn rhoi camargraff o faint y datblygiad.

Yn ôl yr awdurdod, roedd E.on wedi defnyddio lluniau o dyrbinau llawer llai na’r rhai go iawn ac wedi creu llun oedd yn lleihau effaith y fferm ar yr olygfa.

Ar y ddau gyfri, meddai’r Awdurdod, roedd yna debygrwydd y byddai’r hysbyseb yn camarwain.

Yn ôl E.on, sy’n berchnogion ar orsaf trydan dŵr Rheidol a fferm wynt Rhydygroes yn Sir Fôn, doedd yna ddim bwriad i gamarwain ac mae rhoi syniad oedd bwriad yr hysbyseb nid rhoi darlun manwl.

Llun: Tyrbinau gwynt (Mitchazenia – Trwydded CCA3.0)