Dyw’r Ysgrifennydd Tramor ddim wedi gwadu’r posibilrwydd o anfon rhagor o filwyr i Afghanistan.
Roedd niferoedd yno “yn dibynnu ar y sefyllfa ar lawr gwlad a rhannu’r baich ymhlith y cynghreiriaid,” meddai David Miliband mewn cyfweliad ddoe.
Mae nifer y milwyr Prydeinig yn Afghanistan eisoes wedi codi o 3,000 ar y dechrau i 9,000 yn awr ond mae sôn wedi bod fod yr Unol Daleithiau eisiau gweld 2,000 arall.
Roedd David Miliband yn pwysleisio fod 42 o wledydd yn rhan o’r gynghrair sy’n ceisio gorchfygu’r Taliban a thawelu’r wlad.
Fe ddywedodd hefyd nad oedd ateb milwrol i’r cythrwfl yno ac mai’r nod oedd creu “lle” er mwyn i bobol Afghanistan allu eu rheoli eu hunain.
“Dydyn ni ddim yn ceisio coloneiddio Afghanistan,” meddai.