Dyw hi ddim yn glir bellach a fydd Cymru’n cael cynnal gêmau yng Nghwpan Rygbi’r Byd yn 2015.
Ar y dechrau, roedd disgwyl y byddai hyd at saith o gêmau grŵp a dwy gêm wyth ola’ yn cael eu cynnal yn Stadiwm y Mileniwm, ond dyw hynny ddim yn bendant.
Fe fydd rhaid i Undeb Rygbi Lloegr roi cyflwyniad i Fwrdd y Bencampwriaeth ynglŷn â’r meysydd tebygol – yn ddiweddar maen nhw wedi dangos tuedd i gadw’r gêmau i un wlad.
Fe gyfaddefodd Undeb Rygbi Cymru fod ganddyn nhw frwydr bellach i sicrhau y bydd rhai gêmau’n dod yma ond eu bod nhw’n “dawel hyderus” y bydd hynny’n digwydd.
(Llun – Stan Zurec – Trwydded CCA2/0)