Bydd dyn a gafodd ddedfryd o garchar am oes am lofruddio ei lysfab yn treulio o leiaf 16 mlynedd yn y carchar cyn iddo allu wneud cais am barôl, dywedodd barnwr yn Llys y Goron Abertawe heddiw.
Cafwyd Carl Wayne Bowen, 42, o Lanelli yn euog ddoe o lofruddio ei lysfab 15 oed, Jamie Yeates, mewn ymosodiad ffyrnig gyda chyllell.
Penderfynodd rheithgor yn Llys y Goron Abertawe ei fod hefyd yn euog o geisio llofruddio ei wraig, Maria, ac o anafu ei lysferch, Kimberley.
Fe’i cafwyd e’n ddieuog o geisio’i llofruddio hithau.
Roedd Wayne Bowen wedi cyfaddef ei fod wedi ymosod ar y tri ond roedd ei dîm cyfreithiol yn dadlau nad oedd yn ei iawn bwyll ar y pryd.
Fe glywodd y llys fod yr ymosodiad ar Jamie Yeates mor ffyrnig nes i’r gyllell dorri trwy ei asgwrn cefn.